Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 13A(8) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol  Cymru.

2015 Rhif (Cy.  )

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 1B i’r Ddeddf honno.

Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol bod pob awdurdod bilio yng Nghymru yn gwneud cynllun sy’n pennu pa ostyngiadau a fydd yn gymwys i’r symiau o’r dreth gyngor a fydd yn daladwy gan bersonau, neu ddosbarthiadau o bersonau, yr ystyria’r awdurdod eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn pennu pa faterion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.

Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn pennu cynllun a fydd yn cael effaith mewn perthynas ag anheddau yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae’r diffiniad diwygiedig a fewnosodir gan reoliadau 3(a) a 15(a) yn ymwneud â newidiadau a wnaed gan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (“Deddf 2012”). O dan Ddeddf 2012 ni fydd y lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm bellach yn cynnwys lwfans cyfrannol a lwfans yn seiliedig ar incwm ar wahân, ond dim ond lwfans cyfrannol a elwir yn “lwfans cyflogaeth a chymorth”. Mae’r diffiniad diwygiedig yn cynnwys y lwfans cyflogaeth a chymorth a ddarperir o dan Ddeddf Diwygio Lles 2007 a’r lwfans  newydd a ddarperir o dan Ddeddf 2012. Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 7(e)(i), 9, 10(d) ac (e)(i), 11(e), (h) ac (i), 12 a 13 yn diweddaru’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig i gynnwys cyfeiriadau at Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013. Mae rheoliadau 24, 25(a), 26, 28(e) ac (h), 29 a 30 yn diwygio’r Rheoliadau Cynllun Diofyn at yr un diben.

Gwneir y diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 3(b), 4, 7(b), (c), (d), (e)(ii) a (iii), 10(b), (c), (e)(ii) a (iii) o ganlyniad i Ran 7 o Ddeddf Plant a Theuluoedd  2014. Mae’r Ddeddf honno yn gwneud darpariaeth ar gyfer hawlogaethau newydd o ran rhannu absenoldeb rhiant a rhannu tâl rhiant yn lle absenoldeb tadolaeth ychwanegol a thâl tadolaeth ychwanegol. Mae rheoliadau 15(b) ac (c), 16, 19, 20, 21, 22, 23, 25(b) ac (c) yn gwneud yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 18 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig. O dan reoliad 18, cyn diwygio cynllun, mae’n ofynnol i awdurdodau bilio gyhoeddi’r cynllun drafft ac ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’n ystyried ei bod yn debygol bod ganddynt fuddiant yng ngweithrediad y cynllun. Mae’r diwygiad yn dileu’r gofyniad i gyhoeddi cynllun drafft ac i ymgynghori â phersonau a chanddynt fuddiant pan fo awdurdod yn diwygio cynllun i gymryd ystyriaeth o ddiwygiadau a wnaed i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 28 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig sy’n rhagnodi personau nad ydynt o Brydain Fawr yn ddosbarth o berson na chaniateir ei gynnwys mewn gostyngiad ac nad oes ganddo hawlogaeth i ostyngiad o dan gynllun awdurdod. Mae’r diwygiad yn rhagnodi bod person sy’n cael lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm ac y mae ei unig hawl i breswylio yn dod o fewn y categorïau a bennir yn rheoliad 28(4) o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn berson i’w drin fel pe nad yw’n dod o Brydain Fawr. Mae rheoliad 17 yn gwneud diwygiad i’r perwyl hwnnw i baragraff 19 o’r Rheoliadau Cynllun Diofyn. Mae’r diwygiadau yn rheoliadau 6 ac 17 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth trosiannol a wneir yn rheoliad 31.

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan rheoliadau 7(a)(i) i (v), 8, 10(a)(i) i (v), ac 11(a) i (d), (f) ac (g) yn cynyddu rhai o’r ffigurau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson hawlogaeth i gael gostyngiad ai peidio, a swm unrhyw ostyngiad. Mae’r ffigurau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawl gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd ac nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef, er mwyn penderfynu swm y gostyngiad y mae hawlogaeth gan y ceisydd i’w gael). Gwnaed yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 18(a) i (e), 27 a 28(a) i (d), (f) ac (g).

Mae’r diwygiadau yn rheoliadau 7(a)(vi) a (vii), a 10(a)(vi) a (vii) yn mewnosod cyfeiriadau at gredyd cynhwysol i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig pan fo cyfeiriadau eisoes at fudd-daliadau eraill yn seiliedig ar incwm. Mae rheoliadau 18(f) a (g) yn mewnosod y cyfeiriadau hynny i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a manteision tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 13A(8) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy.  )

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2015

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)               

Mae Gweinidogion Cymru  yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992([1]), a pharagraffau 2 i 7 o Atodlen 1B iddi.

Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2015.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn

perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a

wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015.

(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun  a wnaed gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013([2]) neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

2.  Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 13.

3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)     yn lle’r diffiniad o “lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol” rhodder—

“ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol” (“contributory employment and support allowance”) yw lwfans o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007([3]) fel y’i diwygiwyd gan ddarpariaethau Atodlen 3, a Rhan 1 o Atodlen 14, i Ddeddf Diwygio Lles 2012([4]) sy’n dileu cyfeiriadau at lwfans seiliedig ar incwm,  a chymorth cyfrannol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 fel y mae’r Rhan honno yn cael effaith ar wahân i’r darpariaethau hynny;”;

(b)     mewnosoder yn y man priodol—

“ystyr “absenoldeb rhiant a rennir” (“shared parental leave”) yw absenoldeb yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 75E neu 75G o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996([5]);”.

4. Yn rheoliad 10 (gwaith am dâl), ym mharagraff (7) ar ôl  “absenoldeb tadolaeth” mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”.

5. Yn rheoliad 18 (diwygio ac amnewid cynlluniau)—

(a)     ym mharagraff (4) yn lle “Mae rheoliad 17” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae rheoliad 17”;

(b)     ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

“(6) Nid yw paragraff 17(1) yn gymwys pan fo cynllun wedi ei ddiwygio o ganlyniad yn unig i un neu ragor o ddiwygiadau a wneir i’r Rheoliadau hyn.”

6. Yn rheoliad 28(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—

(a)     yn is-baragraff (j) hepgorer “, lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm”;

(b)     ar ôl is-baragraff (k)—

                           (i)    hepgorer “.”;

                         (ii)    ychwaneger—

“; neu

(l)   yn cael lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm ac â’r hawl i breswylio ac eithrio hawl i breswylio o fewn paragraff (4)(a) i (d).”

7. Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—

                           (i)    yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£11.30” rhodder “£11.75”;

                         (ii)    yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£3.75” rhodder “£3.90”;

                       (iii)    yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£188.00” rhodder “£189.00”;

                        (iv)    yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£188.00”, “£326.00” a “£7.50” rhodder “£189.00”, “£328.00” a “£7.80” yn y drefn honno;

                          (v)    yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£326.00”, “£406.00” a “£9.45” rhodder “£328.00”, “£408.00” a “£9.85” yn y drefn honno;

                        (vi)    yn is-baragraff (8)—

(aa)        hepgorer y “neu” ar ddiwedd paragraff (a);

(bb)       ar ôl paragraff (b) ychwaneger—

“; neu

(c)   y mae ganddo hawlogaeth i ddyfarniad o gredyd cynhwysol pan fo’r dyfarniad yn cael ei gyfrifo ar y sail nad oes gan y person unrhyw incwm a enillir.”;

                      (vii)    ar ôl is-baragraff (9) mewnosoder—

“(10) At ddibenion is-baragraff (8), mae i “incwm a enillir” (“earned income”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 52 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013([6]).”;

(b)     ym mharagraff 10(1) (ystyr “incwm”: pensiynwyr)—

                           (i)    y mharagraff (j)(xvi) hepgorer “cyffredin”;

                         (ii)    ar ôl is-baragraff (j)(xvi) mewnosoder—

                 “(xvia)  tâl rhiant statudol a rennir sy’n daladwy o dan Ran 12ZC o DCBNC;”;

(c)     ym mharagraff 12 (enillion enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), ar ôl is-baragraff (1)(j) mewnosoder—

“(ja) tâl rhiant statudol a rennir sy’n daladwy o dan Ran 12ZC o DCBNC;”([7]);

(d)     ym mharagraff 13 (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), yn is-baragraff (2)(d)—

                           (i)    hepgorer “cyffredin neu ychwanegol”;

                         (ii)    ar ôl “tâl tadolaeth statudol” ychwaneger “, tâl rhiant statudol a rennir”;

(e)     ym mharagraff 19 (trin costau gofal plant: pensiynwyr)—

                           (i)    yn is-baragraff (11)(c) ac (e) ar ôl  “Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013([8])”;

                         (ii)    yn is-baragraff (15)—

(aa)        ar ôl “absenoldeb tadolaeth” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd, mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”;

(bb)       hepgorer “cyffredin”;

(cc)        ar ôl “lwfans mamolaeth o dan adran 35 o’r Ddeddf honno” mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir yn rhinwedd adran 171ZU neu 171ZV o’r Ddeddf honno”;

                       (iii)    yn is-baragraff (16)—

(aa)        ar ôl “absenoldeb tadolaeth” mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”;

(bb)       hepgorer “cyffredin neu ychwanegol” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd;

(cc)        ar ôl “tâl tadolaeth statudol” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd, mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir”.

8. Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£148.35” a “£165.15” rhodder “£151.20” a “£166.05” yn y drefn honno;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£226.50” a “£247.20” rhodder “£230.85” a “£248.30” yn y drefn honno;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£226.50” a “£78.15” rhodder “£230.85” a “£79.65” yn y drefn honno;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£247.20” a “£82.05” rhodder “£248.30” a “£82.25” yn y drefn honno;

(b)     yn ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2 (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£66.33” ym mhob man lle y mae’n digwydd, rhodder “£66.90”;

(c)     ym mharagraff 3 (premiwm teulu) yn lle “£17.40” rhodder “£17.45”;

(d)     yn ail golofn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£61.10” ym mhob man lle y mae’n digwydd, rhodder “£61.85” ac yn lle “£122.20” rhodder “£123.70”;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£24.08” rhodder “£24.43”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£59.50” rhodder “£60.06”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£34.20” rhodder “£34.60”.

9. Yn Atodlen 3 (symiau a ddiystyrir o enillion ceisydd: pensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 5(1)(d)(ii) ar ôl  “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad 7 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”;

(b)     ym mharagraff 6(6)(a), ar ôl  “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad 39(1)(a), (b) neu (c) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”.

10. Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad)—

(a)     ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

                           (i)    yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£11.30” rhodder “£11.75”;

                         (ii)    yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£3.75” rhodder “£3.90”;

                       (iii)    yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£188.00” rhodder “£189.00”;

                        (iv)    yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£188.00”, “£326.00” a “£7.50” rhodder “£189.00”, “£328.00” a “£7.80” yn y drefn honno;

                          (v)    yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£326.00”, “£406.00” a “£9.45” rhodder “£328.00”, “£408.00” a “£9.85” yn y drefn honno;

                        (vi)    yn is-baragraff (8)—

(aa)        hepgorer y “neu” ar ddiwedd paragraff (a);

(bb)       ar ôl  paragraff (b) mewnosoder—

“; neu

(c)   y mae ganddo hawlogaeth i ddyfarniad o gredyd cynhwysol pan fo’r dyfarniad yn cael ei gyfrifo ar y sail nad oes gan y person unrhyw incwm a enillir.”;

                      (vii)    ar ôl is-baragraff (9) mewnosoder—

“(10) At ddibenion is-baragraff (8), mae i “incwm a enillir” (“earned income”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 52 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013.”;

(b)     ym mharagraff 14 (enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

                           (i)    yn is-baragraff (1)(j) ar ôl  “tâl tadolaeth statudol” mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir”;

                         (ii)    yn is-baragraff (1)(k) ar ôl  “absenoldeb tadolaeth” mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”;

(c)     ym mharagraff 15 (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr), yn is-baragraff (3)(d)—

                           (i)    hepgorer “cyffredin neu ychwanegol”;

                         (ii)    ar ôl “tâl tadolaeth statudol” mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir”;

(d)     ym mharagraff 17 (cyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr) yn is-baragraff (4), ar ôl “Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu adran 11J o Ddeddf Diwygio Lles 2007”;

(e)     ym mharagraff 21 (trin costau gofal plant)—

                           (i)    yn is-baragraff (11)(c) ac (e) ar ôl  “Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”;

                         (ii)    yn is-baragraff (15)—

(aa)        ar ôl “absenoldeb tadolaeth” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd, mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”;

(bb)       hepgorer “cyffredin”;

(cc)        ar ôl “lwfans mamolaeth o dan adran 35 o’r Ddeddf honno” mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir o dan adran 171ZU neu 171ZV o’r Ddeddf honno”;

                       (iii)    yn is-baragraff (16)—

(aa)        ar ôl “absenoldeb tadolaeth” mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”;

(bb)       hepgorer “cyffredin neu ychwanegol” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd;

(cc)        ar ôl “tâl tadolaeth statudol” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd, mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir”.

11. Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£72.40” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “£73.10” ac yn lle “£57.35” rhodder “£57.90”;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£72.40” rhodder “£73.10”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£113.70” rhodder “£114.85”;

(b)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3 (lwfansau personol), yn lle “£66.33” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “£66.90”;

(c)     ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu) yn lle “£17.40” mewnosoder “£17.45”;

(d)     yn ail golofn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£31.85” a “£45.40” rhodder “£32.25” a “£45.95” yn y drefn honno;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£61.10” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “£61.85” ac yn lle “£122.20” rhodder “£123.70”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£59.50” rhodder “£60.06”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£34.20” rhodder “£34.60”;

                          (v)    yn is-baragraff (5) yn lle “£24.08”, “£15.55” a “£22.35” rhodder “£24.43”, “£15.75” a “£22.60” yn y drefn honno;

(e)     ym mharagraff 18 (yr elfennau) ar ôl  “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad  7 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”;

(f)      ym mharagraff 23 (swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith), yn lle “£28.75” rhodder “£29.05”;

(g)     ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£35.75” rhodder “£36.20”;

(h)     ym mharagraff 25(1)(b)(i), ar ôl “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010” mewnosoder “neu reoliad 26 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”;

(i)      ym mharagraff 27(1)(c), ar ôl “Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad 86 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”.

12. Yn Atodlen 8 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr) , ym mharagraff 12(6)(a), ar ôl   “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad 39(1)(a), (b) neu (c) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”.

13. Yn Atodlen 11 (myfyrwyr), ym mharagraff 3(2)(f), ar ôl   “Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013

14.  Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013([9]) wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 15 i 30.

15.(1)(1) Ym mharagraff 2(1) (dehongli)—

(a)     yn lle’r diffiniad o “lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol” (“contributory employment and support allowance”), rhodder—

“ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol” (“contributory employment and support allowance”) yw lwfans o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 fel y’i diwygiwyd gan ddarpariaethau Atodlen 3 a Rhan 1 o Atodlen 14, i Ddeddf Diwygio Lles 2012 sy’n dileu cyfeiriadau at lwfans yn seiliedig ar incwm, a lwfans cyfrannol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 fel  y mae’r Rhan honno yn cael effaith ar wahân i’r darpariaethau hynny;”;

(b)     yn y ddiffiniad o “absenoldeb tadolaeth” (“paternity leave”) hepgorer “cyffredin”;

(c)     mewnosoder yn y man priodol—

“ystyr “absenoldeb rhiant a rennir” (“shared parental leave”) yw absenoldeb yn rhinwedd adran 75E neu 75G o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;”.

16. Ym mharagraff 10 (gwaith am dâl), yn is-baragraff (7), ar ôl  “absenoldeb tadolaeth” mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”.

17. Ym mharagraff 19(5) (dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—

(a)     Ym mharagraff (j) hepgorer “, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm”;

(b)     ar ôl paragraff (k)—

                           (i)    hepgorer “.”;

                         (ii)    ychwaneger—

“; neu

(l)   yn cael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ac mae ganddo hawl i breswylio ac eithrio hawl i breswylio o fewn is-baragraff (4)(a) i (d).”

18. Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion:  

pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£11.30” rhodder “£11.75”;

(b)     yn is-baragraff 1(b), yn lle “£3.75” rhodder “£3.90”;

(c)     yn is-baragraff 2(a), yn lle “£188.00” rhodder “£189.00”;

(d)     yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£188.00”, “£326.00” a “£7.50” rhodder “£189.00”, “£328.00” a “£7.80” yn y drefn honno;

(e)     yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£326.00”, “£406.00” a “£9.45” rhodder “£328.00”, “£408.00” a “£9.85” yn y drefn honno;

(f)      yn is-baragraff (8)—

                           (i)    hepgorer y “neu” ar ddiwedd paragraff (a);

                         (ii)    ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

“; neu

(c)   y mae ganddo hawlogaeth i ddyfarniad o gredyd cynhwysol pan fo’r dyfarniad yn cael ei gyfrifo ar y sail nad oes gan y person unrhyw incwm a enillir.”;

(g)     ar ôl paragraff (9) mewnosoder—

“(10) At ddibenion is-baragraff (8), mae i “incwm a enillir” (“earned income”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 52 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013.”

19. Ym mharagraff 36 (ystyr “incwm”: pensiynwyr), yn is-baragraff (l)(j)—

(a)     yn is-baragraff (xvi) hepgorer “cyffredin”;

(b)     ar ôl is-baragraff (xvi) mewnosoder—

                 “(xvia)  tâl rhiant statudol a rennir sy’n daladwy o dan Ran 12ZC o DCBNC;”.

20. Ym mharagraff 38 (enillion enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), ar ôl is-baragraff (1) (j) mewnosoder—

“(ja) tâl rhiant statudol a rennir sy’n daladwy o dan Ran 12ZC o DCBNC;”.

21. Ym mharagraff 39 (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), yn is-baragraff (2)(d) ar ôl “tâl tadolaeth statudol” mewnosoder “, tal rhiant statudol a rennir”.

22. Ym mharagraff 48 (enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yn is-baragraffau (1)(j) ar ôl “tâl tadolaeth statudol”, mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir”;

(b)     yn is-baragraff (1)(k) ar ôl “absenoldeb tadolaeth” mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”.

23. Ym mharagraff 49 (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr), yn is-baragraff (3)(d)—

(a)     hepgorer “cyffredin neu ychwanegol”;

(b)     ar ôl “tâl tadolaeth statudol” mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir”.

24. Ym mharagraff 51 (cyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr) yn is-baragraff (4), ar ôl “Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” rhodder “neu adran 11J o Ddeddf Diwygio Lles 2007”.

25. Ym mharagraff 55 (trin costau gofal plant)—

(a)     yn is-baragraff (11)(e) a (g) ar ôl  “Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”;

(b)     yn is-baragraff (15)—

                           (i)    ar ôl  “absenoldeb tadolaeth” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd, mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”;

                         (ii)    hepgorer “cyffredin”;

                       (iii)    ar ôl “lwfans mamolaeth o dan adran 35 o’r Ddeddf honno” mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir o dan adran 171ZU neu 171ZV o’r Ddeddf honno”;

(c)     yn is-baragraff (16)—

                           (i)    ar ôl “absenoldeb tadolaeth” mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”;

                         (ii)    hepgorer “cyffredin neu ychwanegol” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd;

                       (iii)    ar ôl “tâl tadolaeth statudol” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd, mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir”.

26. Ym mharagraff 72(2)(f), ar ôl “Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”.

27.Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)— 

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£148.35” a “£165.15” rhodder “£151.20” a “£166.05” yn y drefn honno;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£226.50” a “£247.20” rhodder “£230.85” a “£248.30” yn y drefn honno;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£226.50” a “£78.15” rhodder “£230.85” a “£79.65” yn y drefn honno;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£247.20” a “£82.05” rhodder “£248.30” a “£82.25” yn y drefn honno;

(b)     yn ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2 (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£66.33” ym mhob man lle y mae’n digwydd, rhodder “£66.90”;

(c)     yn mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£17.40” rhodder “£17.45”;

(d)     yn ail golofn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£61.10” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “£61.85” ac yn lle “£122.20” rhodder “£123.70”;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£24.08” rhodder “£24.43”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£59.50” rhodder “£60.06”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£34.20” rhodder “£34.60”.

28. Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£72.40” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “£73.10” ac yn lle “£57.35” rhodder “£57.90”;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£72.40” rhodder “£73.10”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£113.70” rhodder “£114.85”;

(b)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3 (lwfansau personol), yn lle “£66.33” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “£66.90”;

(c)     ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£17.40” rhodder “£17.45”;

(d)     yn ail golofn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£31.85” a “£45.40” rhodder “£32.25” a “£45.95” yn y drefn honno;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£61.10” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “£61.85” ac yn lle “£122.20” rhodder “£123.70”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£59.50” rhodder “£60.06”;

                        (iv)     yn is-baragraff (4) yn lle “£34.20” rhodder “£34.60”;

                          (v)    yn is-baragraff (5) yn lle “£24.08”, “£15.55” a “£22.35” rhodder “£24.43”, “£15.75” a “£22.60” yn y drefn honno;

(e)     ym mharagraff 18(c)(ii) (yr elfennau) ar ôl  “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad 7 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”;

(f)      ym mharagraff 23 (swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith), yn lle “£28.75” rhodder “£29.05”;

(g)     ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£35.75” rhodder “£36.20”;

(h)     ym mharagraff 25(1)(b)(i) ar ôl “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010” rhodder “neu reoliad 26 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”.

29. Yn Atodlen 4 (symiau a ddiystyrir o enillion ceisydd: pensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 5(1)(d)(ii) ar ôl  “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad 7 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”;

(b)     ym mharagraff 6(6)(a), ar ôl  “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad 39(1)(a), (b) neu (c) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”.

30. Yn Atodlen 6 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 12(6)(a) ar ôl “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad 39(1)(a), (b) neu (c) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”.

Darpariaeth trosiannol

31.(1)(1) Nid yw’r diwygiadau yn rheoliadau 6 ac 17 yn gymwys i berson sydd, ar 31 Mawrth 2015—

(a)     yn atebol i dalu’r dreth gyngor ar gyfradd is yn rhinwedd cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor; a

(b)     â hawlogaeth i lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm,

hyd nes bod y cyntaf o’r digwyddiadau ym mharagraff (2) yn digwydd.

(2) Dyma’r digwyddiadau—

(a)     mae’r person yn gwneud cais newydd am ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor; neu

(b)     mae’r person yn peidio â bod â hawlogaeth i lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm.

Enw

 

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad



([1])           1992 p. 14. Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) a mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(2) o’r Ddeddf honno ac Atodlen 4 iddi.

([2])           O.S. 2013/3029 (Cy. 301), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2014/66 (Cy. 66) ac O.S. 2014/825 (Cy. 83).

([3])           2007 p. 5.

([4])           2012 p. 5.

([5])           1996 c. 18.

([6])           O.S. 2013/376.

([7])           Ystyr “DCBNC”yw Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (p. 4); gweler y diffiniad yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ac ym mharagraff 2 o’r cynllun a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013.

([8])           O.S. 2013/379.

([9])           O.S. 2013/3035 (Cy. 303).